Mae’r felodrom yn 405.38 metr o hyd, a dyma ganolbwynt Parc Caerfyrddin. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ar ddydd Llun y Pasg yn 1900, ac mae wedi bod yn cael ei ddefnyddio’n barhaus ers hynny, a chredir mai hwn yw’r felodrom concrit awyr agored hynaf sy’n cael ei ddefnyddio’n barhaus yn y byd. Yma, cyflwynwyd y cysyniad o ‘yrru’ am y tro cyntaf, lle mae pob beiciwr yn cyflawni cyflymderau uwch drwy rasio yn llif llithro beiciwr modur.

Heddiw mae’r felodrom ar gael i’w logi ac mae’n gyfleuster prysur a ddefnyddir yn rheolaidd gan glybiau lleol a rhai o bell. Pan nad yw’r felodrom wedi’i archebu, mae’n agored i’r cyhoedd.

I holi am y felodrom, cysylltwch â 07794040699 neu dmgriffith@cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk