Sefydlwyd Cyngor Tref Caerfyrddin, ar ei ffurf bresennol yn 1974 ac etifeddodd rhai o gyfrifoldebau ac eiddo’r Cyngor Bwrdeistref Caerfyrddin blaenorol. Mae deunaw aelod etholedig yn cynrychioli tair ward. Mae saith aelod etholedig yn Ward y Gogledd, pump aelod etholedig yn Ward y De a chwech aelod etholedig yn Ward y Gorllewin. Mae hanes y Cyngor Tref yn cael ei grynhoi isod:
Tua 1300
Caerfyrddin oedd y dref fwyaf yng Nghymru, gyda phoblogaeth o amgylch 1,000
1546
Cafodd Caerfyrddin ei wneud yn Fwrdeistref Gorfforaethol ac apwyntiwyd Maer a Chyngor Cyffredin
1764
Derbyniwyd Siartr Bwrdeistref Caerfyrddin oddi wrth George III, yn creu cyngor cyffredin o ugain aelod, i’w hethol gan y maer a’r bwrdeiswyr
By 1790
Roedd y boblogaeth wedi cynyddu i rhwng 6,000 a 7,000 – fe ganiatawyd bwrdeistrefi fel Caerfyrddin rhywfaint o hunain lywodraeth a hawliau masnachu i gynnal ffeiriau a marchnadoedd. Fe sefydlwyd y bwrdeistrefi drwy siartr neu siartrau.
1835
Cafodd bwrdeistrefi o lywodraeth ei diwygio, gyda gwell cynghorau etholedig a rheoliadau ariannol
1875
Caniatawyd pwerau newydd i Gyngor Bwrdeistref Caerfyrddin (yn gyfartal i Gynghorau Dosbarth Trefol
1974
Daeth Cyngor Bwrdeistref Caerfyrddin yn Cyngor Tref Caerfyrddin ac mae’n parhau yn yr un ffurff hyd heddi, rhyw hanner canrif yn ddiweddarach.
