Pan fyddwch yn cysylltu â ni
Bydd y wybodaeth a roddwch (gwybodaeth bersonol megis enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, sefydliad) yn cael ei phrosesu a’i storio i’n galluogi i gysylltu â chi ac ymateb i’ch gohebiaeth, darparu gwybodaeth a/neu gael mynediad at ein cyfleusterau a’n gwasanaethau. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu na’i darparu i unrhyw drydydd parti arall heb eich caniatâd ysgrifenedig.
Hawl y Cyngor i Brosesu Gwybodaeth
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol Erthygl 6(1)(a)(b) ac (e)
Gwneir prosesu gyda chaniatâd gwrthrych y data; neu Mae prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu Mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd.
Diogelwch Gwybodaeth
Mae gan Gyngor Tref Caerfyrddin ddyletswydd i sicrhau diogelwch data personol. Rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu rhag mynediad heb awdurdod, ei cholli, ei thrin, ei ffugio, ei dinistrio neu ei datgelu heb awdurdod. Gwneir hyn trwy fesurau technegol priodol a pholisïau priodol. Gellir gofyn am gopïau o’r polisïau hyn.
Byddwn ond yn cadw eich data at y diben y’i casglwyd ar ei gyfer a dim ond cyhyd ag y bo angen, ac ar ôl hynny caiff ei ddileu. Gallwch ofyn am ddileu eich data a gedwir gan Gyngor Tref Caerfyrddin unrhyw bryd. CTC (i) Hysbysiad Preifatrwydd 1.5.18
Plant
Ni fyddwn yn prosesu unrhyw ddata sy’n ymwneud â phlentyn (dan 13 oed) heb ganiatâd penodol rhiant/gwarcheidwad y plentyn dan sylw.
Mynediad i Wybodaeth
Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad i’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â’n Swyddog Gwybodaeth Data: Eleri James at gejames@carmarthentowncouncil.gov.uk
Cywiriad Gwybodaeth
Os ydych yn credu bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch gysylltu â ni fel y gallwn ei diweddaru a chadw eich data yn gywir. Cysylltwch ag: Eleri James – gejames@carmarthentowncouncil.gov.uk i ofyn am hyn.
Dileu Gwybodaeth
Os hoffech i Gyngor Tref Caerfyrddin ddileu’r wybodaeth amdanoch cysylltwch ag: Eleri James – gejames@carmarthentowncouncil.gov.uk i ofyn am hyn.
Hawl i Wrthwynebu
Os ydych yn credu nad yw eich data’n cael ei brosesu at y diben y’i casglwyd ar ei gyfer, gallwch wrthwynebu: Cysylltwch ag Eleri James – gejames@carmarthentowncouncil.gov.uk i wrthwynebu.
Hawliau Perthynol i Wneud Penderfyniadau Awtomataidd a Phroffilio
Nid yw Cyngor Tref Caerfyrddin yn defnyddio unrhyw fath o wneud penderfyniadau awtomataidd na phroffilio data personol unigol.
Casgliad
Yn unol â’r gyfraith, dim ond swm cyfyngedig o wybodaeth amdanoch sy’n angenrheidiol ar gyfer gohebiaeth, gwybodaeth a darparu gwasanaeth y byddwn yn ei chasglu. Nid ydym yn defnyddio proffilio, nid ydym yn gwerthu nac yn trosglwyddo eich data i drydydd partïon. Nid ydym yn defnyddio eich data at ddibenion heblaw’r rhai a nodir. Rydym yn sicrhau bod eich data’n cael ei storio’n ddiogel. Rydym yn dileu’r holl wybodaeth y bernir nad yw bellach yn angenrheidiol. Rydym yn adolygu ein Polisïau Preifatrwydd yn rheolaidd i’w diweddaru wrth ddiogelu eich data. (Gallwch ofyn am gopi o’n polisïau unrhyw bryd).
Cwynion
Os oes gennych gŵyn am y ffordd y mae eich data personol wedi cael ei brosesu gallwch wneud cwyn i Glerc Cyngor Tref Caerfyrddin – eesmith@carmarthentowncouncil.gov.uk
Ffôn: 01267 235199 a hefyd y Wybodaeth
Swyddfa’r Comisiynydd casework@ico.org.uk Ffôn: 0303 123 1113
