Mae Neuadd Ddinesig San Pedr yn gyfleuster ardderchog ac mae’n gwbl hyblyg i’w osod i’ch galluogi i gael y gorau o’ch digwyddiad. Mae gan y neuadd seddi llawn (arddull theatr) o 250 gyda 100 sedd ychwanegol ar gael i fyny’r grisiau ar y balconi. Gallwn ddarparu ar gyfer digwyddiadau eraill gan gynnwys ciniawau, dawnsfeydd, ymarferion, partïon, arddangosfeydd, ymgynghoriadau cyhoeddus a llawer mwy. Mae gan y neuadd gegin llawn offer, ystafelloedd newid ac ardal bar i gyd-fynd â’ch digwyddiad. Mae’r cyntedd a’r swyddfa docynnau hefyd ar gael i gynnig y croeso gorau i’ch gwesteion. Mae’r neuadd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Yn ogystal â’r neuadd fawr, gallwn hefyd gynnig ystafell cyfarfod ar gyfer hyd at 20 o gynrychiolwyr gyda chegin i ddarparu lluniaeth. Mae’r ystafell yn elwa o gyfleusterau cyfarfod hybrid i’ch galluogi i ymestyn y cyfarfod i’r rhai na allant fod yn bresennol. Mae’r ystafell gyfarfod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm neu ar gais ar adegau eraill.

Mae’r cyfraddau ar gyfer y flwyddyn gyfredol fel a ganlyn: Ffioedd a thaliadau’r cyngor 2026

PDF

Mae’r neuadd a’r ystafell cyfarfod yn hygrych i bobl anabl.