Mae Pwyllgor Apeliadau Elusennol y Maer yn bwyllgor o wirfoddolwyr sy’n trefnu cyngherddau blynyddol, rafflau, boreau coffi, arwerthiannau a digwyddiadau fel Dawns Flynyddol y Maer.

Nod y Pwyllgor yw codi arian sy’n cael ei ddyfarnu’n flynyddol i achosion haeddiannol yn nhref Caerfyrddin. Mae’r Pwyllgor wedi codi mwy na £170,000 yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf.