Mae gan y swydd o Faer hanes hir a disglair yng Nghaerfyrddin. Ceir y cyfeiriad cyntaf at “Faer” mewn llythyr dyddiedig 20 Ebrill 1356 pryd yr enwir John Laurence. Ceir cyfeiriadau hefyd at Faer y dref ym 1368 a 1369 yng Nghartwlari’r Priordy. Ond dim ond o’r flwyddyn 1400 y ceir rhestr barhaol o Feiri, wedi’i chynnwys yn y llawysgrif “Kalendar of All ye Names of Mayors …. from ye year of Our Lord 1400”, sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgrifennir y Kalendar ar ddarnau o bapur a memrwn a bwythir at ei gilydd, 11½ llathen hir a 4½ modfedd o led. Yn anffodus, ychydig a wyddys am ei hanes neu’r awdur ond am y ffairth, yn ôl George Eyre Evans, bod “the principal hand ends with the year 1700”. Mae’r Kalendar yn enwi Dafydd Llwyd fel y Maer ym 1400.
Mae’r Maer hefyd yn dwyn y teitl Llyngesydd Porthladd Caerfyrddin, a roddwyd gan Siartr Harri’r VIII ym 1546. Rhoddwyd Siartr y Llyngesydd gan Harri i’r Maer, y Bwrdeisiaid a Gwerin tref Caerfyrddin ac i’w holynwyr “for ever upon the River Towy from the bridge of Carmarthen to the bar of the said river”.
Mae’r Siartr hwn yn galw i gof y blynyddoedd pan ‘roedd y Tywi yn afon lewyrchus yn cysylltu Caerfyrddin a’r cyrion gyda Môr Hafren a thu hwnt. Bu llongau nwyddau yn angori yn y Cei lle cafwyd llu o stordai. Arweiniodd dyfodiad y rheilffyrdd at leihad yn y drafnidiaeth ar yr afon, ac at y dirywiad yn y diwydiant adeiladu cychod a gymerodd le yn ymyl y Cei a’r Lanfa. ‘Roedd yn draddodiad yn y dyddiau pan ‘roedd Caerfyrddin yn borthladd pwysig i’r Maer a’r Gorfforaeth deithio i lawr i far y Tywi ar “Ddiwrnod Llys y Llyngesydd”, pryd ‘roedd yn ddyletswydd ar y Maer i gynnal Llys y Llyngesydd at y pwrpas o wneud ymholiadau i gyflwr yr afon ac atal niwsans.
Maer Presennol y Dref yw
Y Cyng. Russell Sparks

